9Bach

06meh7:30 yh9BachNeuadd Ogwen - Bethesda

Manylion y Digwyddiad

Neuadd Ogwen – Bethesda

Mae’r band 9Bach ar fin dychwelyd i’r sin gerddoriaeth ar ôl egwyl bum mlynedd, gyda sengl newydd a chyfres o berfformiadau byw ym mis Mai / Mehefin 2025.

gyda chefnogaeth gan TENGGER + Bethesda Shipping Company (set electronig byw)

Bydd rhyddhau’r sengl newydd a’r sioeau byw yn gyfle i glywed y gerddoriaeth newydd y mae 9Bach ac Andy Gangadeen (Chase & Status, Lava La Rue) wedi bod yn gweithio arni gyda’u gilydd. Mae’r sain newydd wedi esblygu i gynnwys swn fwy electronic , ‘up-tempo’ a rhythmic tra’n aros yn driw i sain unigryw 9Bach.

Maen’t yn adnabyddus am eu sain atgofus, hypnotaidd a mesmeraidd, ac mae 9Bach wedi bod yn cydweithio â’r drymiwr hybrid arloesol Andy Gangadeen. Ar ôl gweithio’n ofalus ar rai prosiectau yn ystod y cyfnod clo, datblygodd y berthynas yn bartneriaeth ysgrifennu a recordio.

Bydd Andy yn ymuno â’r band yn fyw ar y drymiau yn ogystal â chymryd y rôl fel MD.

Bydd 9Bach yn rhyddhau LLaw – 101 Mix ar 1af o Fai ar Bandcamp

Mwy

Amser

06/06/2025 7:30 yh(GMT+00:00)

Lleoliad

Neuadd Ogwen

Neuadd Ogwen, Ffordd Bangor, Bethesda Gwynedd, LL57 3AN

Digwyddiadau eraill

cael cyfarwyddiadau

Rhannwch