{"id":2792,"date":"2024-12-02T15:49:15","date_gmt":"2024-12-02T15:49:15","guid":{"rendered":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/?page_id=2792"},"modified":"2024-12-02T16:23:56","modified_gmt":"2024-12-02T16:23:56","slug":"castell-cricieth","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/castell-cricieth\/","title":{"rendered":"Castell Cricieth"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio\u2019r dychymyg. Mae\u2019n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion.<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i&#8217;w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail pictiwr\u00e9sg \u2013 wedi\u2019i ddinistrio gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru\u2019r Canol Oesoedd, Owain Glynd\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<iframe src=\"http:\/\/atgofion.co.uk\/pano\/Criccieth\/\" height=\"700\" width=\"100%\" title=\"Iframe Example\"><\/iframe>\n\n\n\n<p>Ond roedd wedi\u2019i adeiladu gan ddau o&#8217;i ragflaenwyr, gw\u0177r mawr eu bri. Yn gyntaf, cr\u00ebwyd y porthdy enfawr, gyda thyrau cerrig si\u00e2p D ar y naill ochr a&#8217;r llall iddo, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yna ychwanegodd ei \u0175yr, Llywelyn ap Gruffudd &#8211; neu Llywelyn Ein Llyw Olaf &#8211; y ward allanol, y llenfuriau a dau d\u0175r newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Serch hynny, doedd oedd y gaer greigiog hon ddim yn ddigon i wrthsefyll ymosodiad gan Edward I. Gwnaethpwyd ychydig welliannau gan frenin Lloegr ei hun pan osodwyd peiriant taflu cerrig ar y t\u0175r gogleddol er mwyn atal ymosodiadau o du\u2019r Cymry.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y castell yn dal yn nwylo Lloegr yn 1404 pan losgwyd y tyrau\u2019n rhuddion gan Owain Glynd\u0175r. Heb garsiwn i&#8217;w ddiogelu, daeth y dref yn un gyfan gwbl Gymreig unwaith eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Ysgrifennwyd y gerdd fwyaf adnabyddus am Cricieth yn y 14eg ganrif gan y bardd Cymraeg Iolo Goch. Mae&#8217;n dathlu\u2019r \u2018garreg rudd ar gwr grofft\u2019&nbsp; a llys soffistigedig Syr Hywel y Fwyall.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd Syr Hywel ei urddo\u2019n farchog yn sgil ei ddewrder yn y Rhyfel Can Mlynedd, ac ef oedd un o&#8217;r Cymry cyntaf i gael ei benodi\u2019n gwnstabl ar gastell yng ngogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymddengys bod Iolo Goch wrth ei fodd bod Cricieth yn \u00f4l yn nwylo Cymru o&#8217;r diwedd. Mae&#8217;n portreadu Syr Hywel a&#8217;i wraig yn ei gwregys aur yn estyn lletygarwch tra bod morynion hardd yn gwau sidan llachar yn y neuadd fawr.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu Syr Hywel yn gwnstabl y castell am dros 20 mlynedd hyd ei farwolaeth yn 1381 \u2013 cyfnod y cofir yn hir amdano fel oes aur Criccieth. Ond nodwyd ei ddirywiad hefyd mewn barddoniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn ymosodiad gan Owain Glynd\u0175r, mae&#8217;r bardd Owain Waed Da yn ysgrifennu bod y \u2018creigiog fain caregog fur &#8216;wedi syrthio a\u2019r castell bellach yn ddiwerth.<\/p>\n\n\n\n<p>Ganrif yn ddiweddarach, yn \u00f4l bardd lleol arall, mae Cricieth yn cael ei gorfodi i ymbil ar drigolion Harlech i ddarparu p\u00e2r o sanau. Mae&#8217;r castell mor adfeiliedig fel na all ei garchar \u2013 cadarn ar un adeg \u2013 bellach ddal \u2018dynion creulon\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd \u2018caer fawrdeg acw ar fordir&#8217; \u2013 castell Cricieth, a fawrygwyd gan Iolo Goch wedi mynd am byth. Ond mae mwy na digon o\u2019r mawredd yn parhau. Y castell hwn, a adeiladwyd gyntaf bron i 800 mlynedd yn \u00f4l, yw un o&#8217;r adfeilion mwyaf ysblennydd yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltu \u00e2 Cadw<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Rhif ff\u00f4n<\/strong>&nbsp;<a href=\"tel:03000252239\">03000 252239<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>E-bost<\/strong><br><a href=\"mailto:Criccieth.Castle@llyw.cymru\">Criccieth.Castle@llyw.cymru<\/a><strong>Cyfeiriad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Castell Cricieth<br>Castle St, Cricieth LL52 0DP<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio\u2019r dychymyg. Mae\u2019n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion. Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i&#8217;w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2792","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2792","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2792"}],"version-history":[{"count":4,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2792\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2799,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2792\/revisions\/2799"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2792"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}