{"id":2818,"date":"2024-12-02T18:49:37","date_gmt":"2024-12-02T18:49:37","guid":{"rendered":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/?page_id=2818"},"modified":"2024-12-02T18:49:38","modified_gmt":"2024-12-02T18:49:38","slug":"harlech","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/harlech\/","title":{"rendered":"Castell Harlech"},"content":{"rendered":"\n<p>Castell Harlech sy\u2019n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod \u2013 yn aros yn ofer i\u2019r llanw droi ac i\u2019r m\u00f4r pell lepian wrth ei droed unwaith eto.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu \u00f4l iddo. Yn erbyn cystadleuaeth frwd gan Gonwy, Caernarfon a Biwmares, mae\u2019n si\u0175r mai hwn yw\u2019r safle mwyaf ysblennydd i unrhyw un o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. Dynodwyd y pedwar i gyd yn Safle Treftadaeth y Byd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cwblhawyd Harlech o\u2019r ddaear i\u2019r bylchfuriau mewn saith mlynedd yn unig o dan arweiniad y pensaer dawnus James o San Si\u00f4r. Mae ei ddyluniad \u2018waliau o fewn waliau\u2019 clasurol yn gwneud y mwyaf o amddiffynfeydd naturiol brawychus.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed pan gafodd ei ynysu\u2019n llwyr gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, ni ildiodd y castell \u2013 diolch i\u2019r \u2018Ffordd o\u2019r M\u00f4r\u2019. Roedd y llwybr hwn o 108 o risiau a ddringai\u2019r graig serth yn golygu bod modd bwydo a dyfrio amddiffynwyr dan warchae o long.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Haws yw trechu Harlech erbyn hyn. Cewch gerdded ar hyd pompren \u2018arnofiol\u2019 anhygoel i mewn i\u2019r castell gwych hwn yn \u00f4l bwriad James y pensaer &#8211; am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd.<\/p>\n\n\n\n<iframe src=\"http:\/\/atgofion.co.uk\/pano\/Harlech\/\" height=\"700\" width=\"100%\" title=\"Iframe Example\"><\/iframe>\n\n\n\n<p>Alaw fyddarol \u2018G\u0175yr Harlech\u2019 yw anthem genedlaethol arall Cymru, sy\u2019n annwyl iawn i gefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd. Yn \u00f4l y ffilm \u2018Zulu\u2019 byddai hyd yn oed y garsiwn yn Nrifft Rorke yn ei chanu\u2019n frwd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw\u2019n syndod mai Castell Harlech a ysbrydolodd y stori hon o arwriaeth yn nannedd anfanteision. Gwelodd ei dyrau mawr a\u2019i furiau garw warchae ar \u00f4l gwarchae yn ystod rhai o ornestau mwyaf arwrol hanes Cymru.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod Rhyfelodd y Rhosynnod, amgylchynwyd y castell, a oedd ym meddiant y Lancastriaid, gan fyddin Iorcaidd anferthol dan reolaeth William Herbert o Raglan. Soniodd y bardd Hywel Dafi am ddynion yn cael eu hollti gan s\u0175n gynnau, a saith mil o ddynion yn saethu ym mhob porth, a\u2019u saethau wedi\u2019u gwneud o bob ywen.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>O dan y cyrch ffyrnig hwn, ildiodd y castell mewn llai na mis. Cymerwyd hanner cant o garcharorion gan gynnwys y Cymro o gwnstabl Dafydd ab Ieuan ab Einion, a oedd wedi cadw \u2018Harlech fach gyhyd, ffyddlon yn unig i\u2019r goron wan\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Y rhain oedd \u2018G\u0175yr Harlech\u2019 arwrol y g\u00e2n. Heblaw, hynny yw, eich bod chi\u2019n credu\u2019r theori arall.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ym 1404 cwympodd y castell i\u2019r tywysog carismatig Owain Glynd\u0175r yn ystod y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn rheolaeth y Saeson. Ynghyd \u00e2 Machynlleth gerllaw, daeth yn ganolfan i weledigaeth ysbrydoledig Glynd\u0175r am Gymru annibynnol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Symudodd ei brif breswylfa a llys yma a galwodd ar ei ddilynwyr o bob cwr o\u2019r wlad i ddod i senedd fawr. Mae\u2019n ddigon posibl mai yng Nghastell Harlech y cafodd ei goroni\u2019n ffurfiol yn Dywysog Cymru ym mhresenoldeb cenhadon o\u2019r Alban, Ffrainc a Sbaen.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ond ni pharhaodd y gorfoledd hwn. Erbyn 1409 roedd Harlech dan warchae lluoedd Harri o Drefynwy \u2013 sef Harri V, arwr Agincourt, yn ddiweddarach. A dweud y gwir, byrstiodd un canon enfawr \u00e2\u2019r llysenw \u2018merch y brenin\u2019 yn ystod ei beledu di-baid ar furiau\u2019r castell.&nbsp; &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y pen draw, yn llwglyd ac wedi yml\u00e2dd, cwympodd y garsiwn. Dihangodd Glynd\u0175r ei hun ond cipiwyd ei wraig a\u2019i ferched. Ai\u2019r Cymry gwrol hyn o amddiffynwyr oedd gwir \u0174yr Harlech, efallai?&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd amser o hyd am un gwarchae enwog arall. O wanwyn 1644 amddiffynnwyd Harlech i\u2019r brenin gan ei gwnstabl y Cyrnol William Owen. Hwn oedd cadarnle olaf y brenin i syrthio. Erbyn i\u2019r garsiwn a oedd yn weddill yno ildio o\u2019r diwedd ym 1647, sef 16 o swyddogion, bonheddwyr a methedigion, roedd Rhyfel Cartref Lloegr ar ben.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cysylltu \u00e2 Cadw<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Rhif ff\u00f4n<\/strong>&nbsp;<a href=\"tel:03000252239\">03000 252239<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>E-bost<\/strong><br><a href=\"mailto:HarlechCastle@llyw.cymru\">HarlechCastle@llyw.cymru<\/a><strong>Cyfeiriad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Castell Harlech<br>Harlech LL46 2YH<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Castell Harlech sy\u2019n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod \u2013 yn aros yn ofer i\u2019r llanw droi ac i\u2019r m\u00f4r pell lepian wrth ei droed unwaith eto.&nbsp; Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu \u00f4l iddo. Yn erbyn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2818","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2818","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2818"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2818\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2820,"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2818\/revisions\/2820"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/croesocymraeg.cymru\/croeso\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2818"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}