CROESO CYMRAEG I LŶN ac i wynedd

GWYLIAU CYMRAEG

Profiadau unigryw wrth  fwynhau gwyliau mewn awyrgylch Gymraeg.

Ymweld ac aros gyda mentrau cymunedol a busnesau

lle mae Croeso Cymraeg  bob amser

Campio a Glampio

Darganfod y llefydd gorau i aros dan ganfas. Darganfod y safle gwersylla ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n mwynhau anturiaethau awyr agored a natur.

Carafanio

Darganfod y safleoedd gwersylla a charafanio gorau sydd gyda mynediad i rai o deithiau cerdded mwyaf syfrdanol Cymru.

Gwestai a Thai Gosod

Darganfod yr encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar braf, rhamantus.

Y LLEFYDD GORAU I FYND YN YR ARDAL

Diwylliant a Hanes Traethau Diarffordd Llwybrau Anhygoel

Traethau cuddiedig a Llwybr Arfordirol Cymru, gyda phentrefi bach arfordirol. Darganfyddwch  fwytai, caffis a thafarndai, neu ewch ar gwch i ynys gysegredig Enlli. 

Iaith, diwylliant a hanes.... conglfeini cenedl y Cymry.

Lleoliadau, digwyddiadau a phethau i'w gweld a chymryd rhan ynddynt.

Heulwen ar hyd y glennydd – a haul hwyr
A’i liw ar y mynydd;
Felly Llŷn ar derfyn dydd,
Lle i enaid gael llonydd.

J. GLYN DAVIES

Rhai o leoliadau hudolus yr ardal

Amgueddfa Forwrol Llŷn

Mae Amgueddfa Forwrol Llŷn wedi’i lleoli yn hen eglwys y dref. Dethlir treftadaeth y rhan hon o arfordir Gwynedd drwy’r casgliadau diddorol a gafodd lety yn Eglwys y Santes Fair, sydd â’i sylfeini’n dyddio’n ôl i’r chweched ganrif ac a oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig ar Lwybr y Pererinion.

LLŶN AR EI ORAU

Porthladdoedd bach

Ni all neb fod ymhell o’r môr yn Llŷn a bu’n ddylanwad cryf ar fywydau’r trigolion ar hyd y canrifoedd. Yn wir, roedd hi’n haws dod â nwyddau yma mewn llong nag mewn trol.
Mae CroesoCymraeg.Cymru yn cyd-weithio gyda'r wefan Crwydro er mwyn cyflwyno gwybodaeth i chi am hanes y genedl a'r iaith Gymraeg.

Capel Carmel

Prosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan.

Nant Gwrtheyrn

Adnewyddwyd y bythynnod, a croesawodd y ganolfan ei dysgwyr cyntaf ym 1982. Ers hynny, mae mwy na 25,000 o bobl wedi astudio’r Gymraeg yma. O 2007 i 2011, uwchraddiwyd cyfleusteray’r pentref ar gost o £5m, gan gynnwys gwella’r ffordd serth i lawr i’r dyffryn.

Tre'r Ceiri

Caer fu ar ddefnydd rhwng 100CC a 400OC gyda olion tua 150 o gytiau crynion. Ychydig o safleoedd cynhanesyddol Cymreig sy’n dal y dychymyg mor rymus â bryngaer Tre’r Ceiri sy’n edrych dros Benrhyn Llŷn o gopa mwyaf dwyreiniol tri chopa’r Eifl.

Pen-Cim, Porthdinllaen

Porthdinllaen

Hen bentref pysgota ydi Porthdinllaen gyda hanes morwrol cyfaethog yn perthyn iddo. Yma mae'r dafarn enwog Tŷ Coch wedi ei lleoli ar lan y môr, mae o'n lle prysur yn yr haf. Mae yno hefyd gwrs golff a cwch achub yn 'Lifeboat Bay'.

Plas Glyn-y-Weddw

Plasty hardd, gothig a gosgeiddig yw Plas Glyn y Weddw a dyma’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu yn 1857 i gartrefu casgliad celf gweddw stad Madryn. Mae bellach yn adeilad cadwraeth Gradd II* gyda’i risiau Iacobeaidd a’i drawstiau coed a’i ffenest liw ysblennydd.

Porthor

Efallai mai’r mwyaf anghyffredin o’r holl draethau hyfryd o amgylch yr ardal yw Porthor, sydd ychydig i’r gogledd o Aberdaron. Mae’r tywod gwyn yn chwibanu pan fydd rhywun yn cerdded arno.

Garn Fadryn

Garn Fadryn

Mae’r ardal yn wledig gyda’i thai ar wasgar ar odre deheuol mynydd Garn Fadryn Ganwyd Ieuan o Lŷn (John Henry Hughes) (1814 – 1903) yn Ty’n y Pwll. Cyhoeddwyd cyfrol o’i gerddi., ‘Caneuon Ieuan o Lŷn’ ond cofir amdano fel awdur dau emyn welir yn ‘Caneuon Ffydd’ – ‘Wele wrth y drws yn curo’ ac ‘O Iesu croeshoeliedig’

Digwyddiadau

O'r Fro

Dyddiad

Yn nhrefn yr wyddor

Mis Presennol

ein noddwyr a chefnogwyr

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu yn rhannol trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA)

Penrhyn Llŷn

Rhoddwyd statws arbennig iawn i 55 milltir o arfordir Dwyfor yn 1974 pan ddiffiniwyd ef yn arfordir treftadaeth ar sail ei gyfoeth hanesyddol, daearyddol, ecolegol, a naturiol. Mae’r arfordir yn ymestyn o Benrhyn Du, Abersoch ymlaen o gwmpas Ynys Enlli ac i’r gogledd hyd at yr Eifl ac ymlaen i Aberdesach. Y bwriad yw gwarchod yr arfordir, i leihau’r gwrthdaro rhwng ymwelwyr, buddiannau cadwraeth a bywyd bob dydd y cymunedau lleol. 

Cysylltwch

LLEOLIAD

Penrhyn Llŷn

Gwynedd

Cymru.

Cysylltwch

Ffôn : 07464 052 992

Ebost : croesocymraeg@gmail.com

ORIAU AGOR

LlUN-GWE – Amrywio

SAD-SUL – Amrywio

Dilynwch ni