Dyma rai o’r llefydd lle mae’r croeso Cymraeg cynhesaf i’w gael yn Llŷn ac yng Ngwynedd. Gweld ar Fap
Caffis, Bwytai a Thafarndai
Caffi Carmel
Caffi bach ar safle Plas Carmel, sy’n dilyn y tymhorau ac yn defnyddio cynnyrch lleol, organig.
Lleoliad – Aberdaron. Mwy… Menter Gymunedol
Caffi Largo
Caffi newydd wedi ei leoli ger traeth Pwllheli sydd yn gweini bwyd cartref safonol.
Lleoliad – Pwllheli. Mwy…
Caffi Ni
Mae Caffi Ni ar agor bob dydd onibai am ddydd Sul a Llun. Rydym hefyd yn gwneud prydau bwyd i fynd allan. Gallwch archebu ymlaen llaw.
Lleoliad – Nefyn Mwy…
Yr Orsaf Mae caffi Yr Orsaf wedi datblygu’n lleoliad poblogaidd i bobl y Dyffryn ac ymwelwyr. Yn ogystal â'r caffi yn ystod y dydd, rydym yn gobeithio parhau fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau amrywiol fel gigs, barddoniaeth a ffilmiau yn ystod y nos hefyd. Cadwch lygad allan ar y wefan a'n cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth!
Yn ogystal â’n bwydlen arferol, mae gennym ‘brydau arbennig’ amrywiol bob wythnos ac amrywiaeth o deisennau cartref ar y cownter yn ddyddiol.
Lleoliad – Penygroes. Mwy… Menter Gymunedol
Braf
Shac lan môr, caffi a stiwdio yn gwerthu coffi Poblado, hufen iâ Glasu, brownies Braf a mwy.
Lleoliad – Dinas Dinlle Mwy…
Tŷ Coffi
Canolfan Antur ‘Stiniog yng nghanol Bro Ffestiniog. Mae hon yn fenter fasnachol gyda chalon gymdeithasol. Mae ‘Y Siop’ yn dŷ coffi, siop ddillad, gofod gwneuthurwyr a chanolfan wybodaeth ar gyfer yr ardal unigryw hon. Rydym yn gwerthu cynnyrch lleol o safon, dillad gan frandiau dibynadwy yn ogystal ag amrywiaeth o’n gêr brand ein hunain sydd wedi’u dylunio a’u hargraffu’n lleol sydd ar gael i’w prynu yn y siop ac ar-lein.
Lleoliad – Blaenau. Mwy… Menter Gymunedol
Caffi Meinir
Caffi cartrefol sydd hefyd yn fwyty trwyddedig yn gweini amrywiaeth o fwyd cartref, byrbrydau a diodydd.
Ardal dynodedig ar gyfer cŵn tu fewn a thu allan.
Enwyd y caffi a’r bwyty yma, sydd yn eistedd wrth ymyl Llwybr Arfordir Cymru, ar ôl arwres drasig stori werin leol.
Lleoliad – Nant Gwrtheyrn Mwy…
Lleolir Tyddyn Sachau ar gyrion pentref Y Ffôr rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Y datblygiad diweddaraf yw’r caffi a agorwyd yn swyddogol ar y degfed o Orffennaf 2010 gan Russell Jones, cyn-gyflwynydd ar raglen S4C : Byw yn yr Ardd.
Adeiladwyd y caffi i’r safon uchaf. Mae’n olau, ysgafn ac yn gallu eistedd hyd at nawdeg o bobl y tu fewn. Addurnir y muriau gyda ffotograffau trawiadol sydd hefyd ar werth. Mae cynllun siâp L yr adeilad yn fwriadol er mwyn creu adran i deuluoedd ymlacio.
Lleoliad – Pwllheli. Mwy… Menter Gymunedol
Bwytai
Dyma rai o’r llefydd lle mae’r croeso Cymraeg cynhesaf i’w gael yn Llŷn ac yng Ngwynedd. mwy….
Whitehall
Fe welwch Whitehall (sy’n cael ei redeg a’i berchnogi gan deulu) wedi ei leoli ar ddiwedd y stryd fawr ym Mhwllheli. Rydym ar agor bob diwrod o 11 y bore ymlaen, gan gynnig cinio dydd Sul bendigedig bob dydd Sul rhwng 12-3. Mae awyrgylch hynod gyfeillgar a chlyd yma, yn ogystal â bwyd ffres lleol bendigedig!
Mae Llofft yn le braf a chroesawgar i ymlacio gyda ffrindia’ a theulu. Dewch i fwynhau’r gorau o’n bwyd a‘n diod lleol mewn awyrgylch Gymreig ar lannau’r Fenai.
Lleoliad – Felinheli. Mwy…
Tŷ Golchi Mewn lleoliad perffaith rhwng trefydd prysur Bangor a Chaernarfon, llai na dau funud o’r A55, a gyda digonedd o lefydd parcio mae Ty Golchi yn le delfrydol i gyfarfod, gwledda, yfed ac ymlacio. Gweinir ein bwydlen blasus, dewis eang o winoedd a choffi ffres mewn awyrgylch hamddenol a braf bydd yn siwr o blesio gyda phob ymweliad.
Mynediad llawn i’r anabl gan gynnwys toiledau.
Cyfleusterau newid babanod ar gael.
– Bangor Mwy…
Pant Ddu
Gwinllan a Pherllan Pant Du wedi ei lleoli ar lethrau Dyffryn Nantlle, Eryri.
Sefydlwyd y busnes yn 2007. Mae’r busnes teuluol yn cynnwys Ty Bwyta a siop fechan ar y safle.
Gyda golygfeydd arbennig o’r Wyddfa a’i chriw a golygfeydd panoramig o’r môr, mae Pant Du yn leoliad delfrydol i fwynhau harddwch naturiol Eryri.
.
Lleoliad – Penygroes. Mwy…
Dyma rai o’r llefydd lle mae’r croeso Cymraeg cynhesaf i’w gael yn Llŷn ac yng Ngwynedd. mwy….
Tafarn Y Fic
Tafarn Gydweithredol Gymundedol. Dewch draw am dro. Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl ardal Llithfaen gwmni cydweithredol a chodi cyfalaf i brynnu Tafarn y Fic. Ers hynny mae wedi tyfu’n dafarn gymdeithasol Gymreig yn darparu amrywiaeth o adloniant Cymraeg ac yn cynnig cyflogaeth leol.
Lleoliad – Llithfaen Mwy… Menter Gymunedol
Tafarn Yr Heliwr
Mae’r Heliwr yn dafarn a llety gymunedol yn nhref Nefyn, wedi ei hamgylchynu gan brydferthwch Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru.
Rydym wedi ein lleoli ar Stryd Fawr Nefyn, y lleoliad perffaith i ymwelwyr sy’n dymuno cael blas ar bopeth sydd gan yr ardal i’w gynnig.
Lleoliad – Nefyn. Mwy… Menter Gymunedol
Cwrw Llŷn
Bragdy annibynnol ydan ni yn cynhyrchu detholiad o gwrw llawn blas a chymeriad. Boed wrth fragu cwrw chwerw, lliw haidd neu gwrw ysgafn, golau, rydym yn rhoi amser a chwarae teg i’r grefft. Hyn i gyd er mwyn i’r cwsmer gael amser da!
Lleoliad – Nefyn. Mwy…
Tafarn Y Plu
Sefydlwyd Menter y Plu ym Medi 2018 fel Cwmni Buddiant Cymunedol gyda’r bwriad o brynu Tafarn y Plu, Llanystumdwy a’i redeg fel tafarn gymunedol. Cynigiwyd cyfranddaliadau cyhoeddus yn y fenter a llwyddwyd i godi dros £80,000, gyda phobl leol ac unigolion o bob cwr o’r byd yn cyfrannu. cwblhawyd y pryniant ar 1 Awst 2019.
Lleoliad – Llanystumdwy. Mwy… Menter Gymunedol
Y Penlan
Tafarn Penlan Fawr, Pwllheli.Cwrw Da, Bwyd Da, Adloniant o bob math! Mae Penlan Fawr hefyd yn un o dafarndai hynaf Cymru. Ceir llythyr cyn 1622 lle mae William Vaughan (tad Richard Vaughan) yn gofyn i Syr William Maurice, un o brif weinyddwyr y Goron yn Sir Gaernarfon, am drwydded i werthu gwin mewn adeilad ym Mhwllheli – sef Penlan Fawr yn ôl pob tebyg.
Lleoliad – Pwllheli. Mwy...
Ty`n Llan
Ail-agorwyd drysau Ty’n Llan dros dro ym mis Rhagfyr 2021 a mae’r gwaith o godi arian yn dal i barhau. Trwy gyrraedd y nod ariannol, bydd modd cyflawni ein gweledigaeth lawn o far, cegin a bwyty cyfoes, 5 ystafell wely en-suite, estyniad gwydr gyda golygfeydd o’r Eifl, ystafell gymunedol ar gyfer cyfarfodydd, cymdeithasau a chlybiau, gardd gwrw ddeniadol i’r teulu cyfan gyda chegin allanol a digonedd o le parcio gyda phwynt gwefru ar gyfer ceir trydan.
Lleoliad – Llandwrog. Mwy… Menter Gymunedol
Yr Eagles
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl o hyd yn Yr Eagles. Llwyddodd y gymuned i brynu’r dafarn yn 2023 . Rhoddodd hyn fywyd newydd i’r sefydliad tra’n cofleidio cymeriad hynafol y dafarn Gymreig. Mae’r Eagles yn dafarn unigryw o awyrgylch Gymreig gyda’r iaith a’r diwylliant yn ganolog i’r holl weithgaredd a’r gwmniaeth.
Lleoliad – Bala. Mwy... Menter Gymunedol
Arlwyo
Dyma rai o’r llefydd lle mae’r croeso Cymraeg cynhesaf i’w gael yn Llŷn ac yng Ngwynedd. mwy….
Môr Flasus
Cwmni arlwyo symudol o Ben Llŷn yw Môr Flasus rydym yn coginio bwyd môr ffresh.
Lleoliad – Nefyn. Mwy…
Siopau Bwyd, Becws, Deli
Dyma rai o’r llefydd lle mae’r croeso Cymraeg cynhesaf i’w gael yn Llŷn ac yng Ngwynedd. mwy….
Bonta Deli
Lleolir Bonta Deli o fewn muriau castell Caernarfon. Rydym yn angerddol am fwydydd lleol o safon uchel.
Mae ein hamrywiaeth o fwydydd yn amrywio trwy’r tymhorau o’n ciabatta’s ffres amser cinio, i’n cacennau cartref a’n teisennau Eidalaidd. Yn stocio dros 30 o gawsiau mae cownter caws ac amrywiaeth eang o nwyddau lleol Cymreig ac Eidalaidd rydym yn eu darparu ar gyfer unrhyw amser bwyd a chwpwrdd storio.
Mae William Glyn Owen yn gigydd adnabyddus yng Nghaernarfon.
Lleoliad – Caernarfon. Mwy…
Becws Gwalia
Busnes teuluol ifanc , yn adnewyddu'r hen Gwalia i ddod â bywyd yn ôl i stryd fawr Pwllheli. Wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Oriel Tonnau gyda siop dros dro o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Lleoliad – Pwllheli. Mwy...