Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.
Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.
CAERNARFON

Mae’r castell a’r muriau’n Safle Treftadaeth Byd, ac yn yr anheddiad rhwng y muriau cadwyd cynllun y strydoedd canoloesol. Mae o leiaf un adeilad o’r Oesoedd Canol, a adnewyddwyd yn ddiweddar, wedi goroesi o fewn y muriau yn ogystal â nifer o dai tref o’r ddeunawfed ganrif, sydd mewn cyflwr gwael. Yr adeiladau amlycaf yn rhan ogleddol-orllewinol yr hen dref yw llysoedd y gyfraith a’r cyn garchar, a hefyd Pencadlys modern Cyngor Sir Gwynedd, a godwyd yn y 1980au gan Gwmni Tref Caernarfon.
Mae’n bosibl mai’r Gaer Rufeinig ( Segontium ), ar gyrion de-ddwyreiniol y dref bresennol, oedd y safle cynharaf i bobl ymsefydlu ynddo, ac mae’r ffaith bod eglwys y plwyf Sant Peblig gerllaw’n cryfhau’r posibilrwydd hwnnw. Sefydlwyd y llys ac anheddiad brodorol ar graig ar y tir lle mae’r afon Seiont a Chadnant yn uno â’r afon Menai cyn concwest Edward 1; cafodd y rhain eu dymchwel i wneud lle i fwrdeistref furiog a chastell ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.
Pan wnaeth Speed ei arolwg yn 1612 dal yn gyfyngedig oedd y twf y tu hwnt i furiau’r dref, er bod pobl wedi ymsefydlu yn yr ardal sy’n cyfateb bellach i Benrallt. Ni ddechreuodd y dref dyfu nes gwelwyd twf y diwydiant llechi, ac i ryw raddau yr allforion copr, o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan sefydlwyd cei newydd (islaw’r castell) ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rheilffordd Nantlle yn 1812 a Gwesty’r Uxbridge Arms (Royal, Celtic Royal). Rheolid, ac i ryw raddau, cwerylwyd dros y dref gan brif deuluoedd y tirfeddianwyr – teulu Paget Plas Newydd, Arglwyddi Newborough Glynllifon, Assheton Smith y Faenol, Thomas Coed Helen a theulu’r Garnons. Amlygwyd pwysigrwydd cynyddol y dref pan godwyd adeiladau dinesig fel neuadd y sir, llysoedd y gyfraith, carchar, swyddfa’r post yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a’i harwyddocâd fel canolfan ranbarthol Anghydffurfiaeth wrth i nifer o gapeli sylweddol gael eu codi. Yn yr ugeinfed ganrif adeiladwyd tai cymdeithasol ar raddfa sylweddol a cheisiwyd datblygu ei hapêl i dwristiaid.

Llwybrau ardal Caernarfon
Llwybr Caernarfon – Groeslon, Llwybr Groeslon i Clynnog Fawr

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"
Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.
