Llŷn – Cadarnle’r Gymraeg

Mae Nant Gwrtheyrn yn le hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Llŷn. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn cyrsiau Cymraeg i Oedolion (fel ail iaith) drwy gyfrwng cyrsiau preswyl dwys sydd ar gael gydol y flwyddyn. Os ydych am loywi’ch iaith tyrd i ymdrochi yn iaith gymunedau Gymraeg Llŷn.

Darganfod Mwy…

Llenyddiaeth Llŷn

O Gynfeirdd Llŷn- William Lleyn, Huw Lleyn a Morys Dwyfach i’r beirdd yr un ar ugeinfed ganrif.

Heulwen ar hyd y glennydd – a haul hwyr
A’i liw ar y mynydd;
Felly Llŷn ar derfyn dydd,
Lle i enaid gael llonydd.

J. Glyn Davies

Darllenwch Mwy…

Celf yn Llŷn

Plas Glyn y Weddw -Yng nghanol yr 1990’au sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol annibynnol gan Gyfeillion yr Oriel er mwyn prynu’r Plas. Fe’i prynwyd gyda chymorthdal gan y Loteri Genedlaethol. Heddiw, mae Plas Glyn-y-Weddw yn llawer mwy na oriel gelf; mae’n ganolfan gelf a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, yn cyfuno celf, natur a diwylliant trwy ystod eang o weithgareddau.

Gweld Mwy…

Cerddoriaeth

Mae swn yn Mhortinllaen, swn hwylie’n codi:
Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi:
Ni fedra’i aros gartre yn fy myw;
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Fflat Huw Puw yn hwylio heno,
Swn codi angor; mi fyna’i fynd i forio:
Mi wisga’i gap pig gloew tra bydda’i byw,
Os cai fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.

Clywed Mwy….

Llên gwerin a Chwedlau

Mae pen Llŷn yn frith o Len gwerin a chwedlau. Yn dyddio yn ôl cyn hanes a trwy gyfnod yr ysgrifau cynharaf yn plethu digwyddiadau a chymeriadau at leoliadau ledled Llŷn.

Tre’r Cewri, Rhys a Meinir, Castellmarch, Gwrtheyrn, Arthur, cantre’ gwaelod, Caer Arianrod, Y Mabinogion a thywysogion Gwynedd.

A llawer Mwy…

Enwau Lleoedd

lon cil llidiard, Brynllyngedwydd, Llam Lleidr, Maen y gerdd, Methlan, Llanfaelrhys, Ogof Wil Puw, Twll boddi cathod, Saethon, Sodom, Mwy…

pecynnur profiad

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru