Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl Llŷn ond mae wedi cael effaith niweidiol ar y Gymraeg ers canrif. Dechreuodd y diddordeb yn un o’r pentrefi bach hyfrytaf a thawelaf yn Llŷn tua can mlynedd yn ôl ac mae ei ddylanwad yn amlwg iawn ar Abersoch erbyn heddiw. Mae’r gwaith yma’n cefnogi cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn i sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Mae angen creu cyfleon newydd i addysgu pawb am hanes yr iaith Gymraeg, sydd yn perthyn i’r Frythoneg ac sydd wedi bod yma o’r cyfnod cynharaf. Creu cyfleon i gynorthwyo dysgwyr a chroesawu pawb i weld gwerth y Gymraeg. Gwarchod y gweithgaredd traddodiadol Cymraeg a chreu cyfleon fydd yn mabwysiadu Rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol.
Swyddfa
Capel Penygraig Llangwnnadl Pwllheli Gwynedd LL53 8NT Tel: 07464 052992