

Adnoddau Iaith
Rydym wedi ymrwymo i weithredu’n dryloyw ac i ddatblygu ein gweithgaredd ar dystiolaeth gadarn a chywir. Rydym yn gweithio’n gydweithredol efo pawb sy’n rhannu’r un weledigaeth o ddatblygu twristiaeth gyfrifol er budd y gymuned gyfan a’r holl drigolion lleol. Mae ein gweledigaeth o dwristiaeth gyfrifol yn cydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol wrth i ni hyrwyddo harddwch eithriadol a hanes yr ardal unigryw yma i ymwelwyr ac i bobl leol.

Dyma'r nodau yr ydym yn helpu pobl i'w cyflawni
Hapus i siarad Cymraeg
Cynnig Cymraeg
Addewid Twf Gwyrdd
Llysgennad Gwynedd
Safle we amlieithog
Polisi Amgylcheddol
Pwyntiau gwefru ceir
Arwyddion Ddwyieithog
Bwydleni Dwyieithog
Staff Dwyeithog
Cadwini cyflenwyr lleol

Adnoddau Iaith
Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl. Mae busnesau yng Nghymru yn dechrau gweld bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth i’w cynnyrch ac yn gallu creu brand unigryw. Mae gallu defnyddio hyd yn oed ychydig o Gymraeg yn gallu gwella eu gwasanaeth cwsmer hefyd, a gwneud i gwsmeriaid Cymraeg deimlo’n hapusach.
Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl na gwneud pob dim drwy’r Gymraeg i elwa. Mae’r pethau bychain yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
Helo Blod – Gwasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg. |
Comisynydd y Gymraeg – Canllawiau cyfryngau cymdeithasol, arwyddion dwyieithog ayyb. |
Creu naws mewn lle – Syniadau ar y Gymraeg a Naws am Le mewn busnes. |
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru – Corff sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. |
Google translate English – Welsh – Cyfieithu ar-lein. |
Cysill Ar-lein – Gwiriwr sillafu Cymraeg ar-lein. |
Arfor – Defnyddio datblygu economaidd i gefnogi’r Gymraeg. |
Argraff – Y cwmni sy’n gyfrifol am y wefan hon ac sy’n gallu cynghori neu ddarparu gwefannau. |
Geiriaduron ar-lein
Ap Geiriaduron Enwau lleoedd safonol Cymru, Comisiynydd y Gymraeg Geiriadur ar lein Cymraeg Saesneg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Geiriadur yr Academi Geiriadur Prifysgol Cymru Gweiadur |
Sefydlwyd Croeso Cymraeg .Cymru gan bobl leol sy’n cydweithio i warchod yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd a byddianau pobl Llŷn.
Mae CroesoCymraeg.Cymru yn cyd-weithio gyda’r wefan Crwydro er mwyn rhoi’r holl wybodaeth i chi am y Gymraeg a’i Hanes a’i diwylliant.
Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl Llŷn ond mae wedi cael effaith niweidiol ar y Gymraeg ers canrif. Dechreuodd y diddordeb yn un o bentrefi bach hyfrytaf a thawelaf yn Llŷn tua chan mlynedd yn ôl ac mae’i ddylanwad negyddol i’w weld yn amlwg iawn yn Abersoch, erbyn heddiw.
Mae’r gwaith hwn yn cyflwyno cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn i sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Mae angen creu cyfleoedd newydd i addysgu pawb am hanes yr iaith Gymraeg (a ddatblygodd o’r Frythoneg, iaith frodorol Ynys Prydain) ac sydd wedi bod yma o’r cyfnod cynharaf. Creu cyfleoedd i gynorthwyo dysgwyr a chroesawu pawb i weld gwerth yn y Gymraeg. Nod y cynllun Croeso Cymraeg ydi gwyrdroi effeithiau niweidiol y dwristiaeth Saesneg i fod yn effeithiau cadarnhaol twristiaeth gynaladwy, gylchol, Gymraeg ei hiaith fydd yn ei chynnal y Gymraeg yn Llŷn ac yn cyfranu at Cymraeg 2050. Gwarchod gweithgareddau traddodiadol Gymraeg a chreu cyfleoedd newydd.

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"
Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.

Adnoddau Amgylcheddol
Defnyddio dŵr yn ddoeth – Pecyn adnoddau dŵr-
Atal gwastraff a llygredd – Pecyn adnoddau gwastraff-
Defnyddio ynni yn ddoeth – Pecyn adnoddau ynni-
Defnyddio cadwyni cyflenwi – Pecyn cadwyn cyflenwi-
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth yn helpu busnesau twristiaeth Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at
- gwella eu cynaliadwyedd,
- dangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas,
- ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel.
Mae’n cynnig ystod o gamau syml, ymarferol y gellir eu cymryd, megis gwella effeithlonrwydd dŵr ac ynni, a gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol a fydd yn helpu cwmnïau i ddod yn fwy effeithlon, datgarboneiddio ac ennill busnes newydd.
Trwy gofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth, gofynnir i’ch busnes ymrwymo i un neu ragor o gamau cadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd wrth sicrhau perfformiad cynaliadwy, gan gynnwys:
- Gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol
- Trafnidiaeth effeithlon a logisteg
- Defnyddio tir, ynni a dŵr yn ddoeth
- Mesur effeithiau eich busnes
- Gwella llesiant staff a’ch cymuned leol
- Defnyddio deunyddiau pecynnu priodol
- Atal gwastraff a llygredd
- Adolygu cynhyrchion a gwasanaethau
- Hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy
Twristiaeth Gyfrifol
Rydym wedi ymrwymo i weithredu’n dryloyw ac i ddatblygu ein gweithgaredd ar dystiolaeth gadarn a chywir. Rydym yn gweithio’n gydweithredol efo pawb sy’n rhannu’r un weledigaeth o ddatblygu twristiaeth gyfrifol er budd y gymuned gyfan a’r holl drigolion lleol. Mae ein gweledigaeth o dwristiaeth gyfrifol yn cydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol wrth i ni hyrwyddo harddwch eithriadol a hanes yr ardal unigryw yma i ymwelwyr ac i bobl leol.
Cyfeirir yn aml at fanteision a buddion economaidd twristiaeth yng Ngwynedd. Ond tra mae twristiaeth wedi bod yn cynnal y bywyd Cymraeg y mae hefyd wedi bod yn ei ddifa ar yr un pryd. Mae tystiolaeth ymchwil yn cadarnhau fod twristiaeth ar ei ffurf bresennol yn cael effaith niweidiol ar y cymunedau Cymraeg a’r amgylchedd. Ar sail y dystiolaeth yma rydym yn cydweithio i sefydlu twristiaeth gyfrifol, gydnaws, gylchol, gynaliadwy a gwyrdd fydd yn grymuso’r cymunedau yn amgylcheddol, economaidd, gymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol.
Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiawth busnesau twristiaeth o werth diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sydd i hyrwyddo a datblygu twristiaeth gyfrifol fydd yn cynnal ac yn grymuso cymunedau ac yn gwarchod yr amgylchedd naturiol a diwylliannol. Dyma pam yr ydym wedi gosdo disgwyliadau pendant i fusnesau anelu atynt er mwyn bod yn un o’r busnesau Croeso Cymraeg fydd yn elwa o fod yn rhan gynnig arloesol newydd.
Rydym yn cydweithio gyda Cymunedoli a mentrau cymunedol yn ogystal a mentrau preifat. Er fod llawer o’r mentrau preifat yn hyrwyddo twristiaeth gyfrifol mae mentrau cymunedol yn ail fuddsoddi’r budd i gyd yn y gymuned yn unol a nod ac amcanion y fentaer.
Wrth ddod â mentrau cymunedol a busnesau at ei gilydd mewn gofod ar y we byddwn yn creu cynnig twristiaeth newydd fydd o fudd i bawb. Bydd hyrwyddo mewn ffordd wahanol yn meithrin math gwahanol o dwristiaeth mewn ffordd gyfrifol fydd yn gwarchod ein holl werthoedd.
Mae Croeso Cymraeg.Cymru yn cymeradwyo Datganiad Twristiaeth Cyfrifol Cape Town o 2002, a siarter twristiaeth Cyfrifol 2022, mae iddynt naw nod –
1. Yn cydnabod bod allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwastraff plastig, a difodiant bioamrywiaeth yn faterion byd-eang y mae angen gweithredu lleol arnynt.
2. Gosod nodau, mesur ac adrodd ar ymdrechion i leihau effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol negyddol, gan gynnwys gorlenwi a gor-dwristiaeth;
3. Yn creu mwy o fuddion economaidd i bobl leol a gwella llesiant cymunedau lletyol drwy ddarparu amodau cyflogaeth gwell, datblygu gwerth a rennir gyda busnesau lleol i greu gwell bywoliaeth a mynd i’r afael ag anghenion economaidd y rhai sy’n dlawd yn economaidd a’r rhai sydd ar y cyrion;
4. Cynnwys pobl leol mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau, eu bywydau a’u cyfleoedd bywyd
5. Yn cyfrannu’n gadarnhaol at warchod treftadaeth naturiol a diwylliannol, at gynnal amrywiaeth, diwylliannau byw a henebion diwylliannol y byd;
6. Yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a gwarchod natur;
7. Yn darparu cyflogaeth gynhwysol ar gyfer y gwahanol ableddau a phobl o ethnigrwydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol amrywiol;
8. Yn darparu profiadau mwy pleserus i bawb, trwy gysylltiadau mwy ystyrlon â phobl leol a gwell dealltwriaeth o hanes a diwylliant lleol, a materion cymdeithasol ac amgylcheddol;
9. Cynnig profiadau diwylliannol sensitif sy’n ennyn parch rhwng twristiaid a gwesteiwyr, ac yn adeiladu balchder a hyder lleol.