Y llefydd gorau i aros dan ganfas. Darganfyddwch y safleoedd glampio neu wersylla delfrydol ar gyfer pobl sydd yn mwynhau anturiaethau awyr agored a natur. Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn lle ‘rydych yn sicr o gael Croeso Cymraeg gan eich gwesteiwyr. 

Gweld ar fap

Glampio

Glampio Coed

Dyma leoliad perffaith ynghanol cefn gwlad am ddihangfa berffaith yn y Gogledd. Os ydych chi awydd penwythnos i ffwrdd neu wythnos i ymweld â mannau newydd, mae’n leoliad delfrydol i gyplau, ffrindiau neu deulu sydd yn chwilio am amser i ymlacio mewn caban moethus a chlyd. Lleoliad – Aberdaron. Mwy…

Tŷ Cynan

Dylan, Laura a’n tri mab ifanc ydyn ni. Rydym yn anelu at fyw bywyd cynaliadwy yma ym Mhen Llŷn. Mae gennym faes carafanau 10 llain yn ogystal â 2 babell glampio. Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Lleoliad – Rhydyclafdy. Mwy…

Glampio Penygraig

Mae’r lleoliad Glampio yma wedi ei leoli mewn llecyn hyfryd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Nepell (1km) o lwybr arfordir Cymru, lai na phum munud o gerdded at un o draethau tywod gorau Llŷn sef Penllech. Y mae ar Lwybr y Pererinion, ac ar drothwy safle aros bws arfordir Llŷn. Lleoliad – Llangwnnadl. Mwy…

Tyn Ddol

Croeso i safle Gwersylla a glampio Tyn Ddôl. Rydym wedi ein lleoli yn Llangwnnadl, ar Arfordir Gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda golygfeydd ymestynnol o Gefn Gwlad a Môr Iwerddon. Lleoliad – Llangwnnadl. Mwy…

Gwersylla

Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn lle rydych yn sicr o gael Croeso Cymraeg cynnes gan eich gwesteiwyr. mwy….

Campio Dwyros

Croeso i Dwyros. Maes gwersylla braf a hamddenol, sy’n edrych draw dros fae Aberdaron. P’un ai a ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu cyfan, neu’n penderfynu codi pac am y penwythnos – mae croeso i bawb a’i babell neu garafán. Lleoliad – Aberdaron. Mwy…
Dwyros

Hirdre Fawr

Safle carafanau a gwersylla.

Mae’n cynnig lleoliad heddychlon a golygfaol ar gyfer carafanio a gwersylla, wedi’i wasgaru ar draws 4 prif gae gyda lleiniau eang a lawntiau agored. Mae’n addas i unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n chwilio am safle sydd nid yn unig yn heddychlon, ond sydd â digon i’w gynnig i’w westeion gan gynnwys ei drac preifat ei hun i draeth Rhosgor a Llwybr Arfordir Llŷn

Lleoliad – Tudweiliog. Mwy…

Map Safleoedd Gwersylla a Glampio

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru