Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.
Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.
CRICIETH
Y cyfeiriad cyntaf at Cricieth yw pan adeiladodd Llywelyn Fawr y castell cyntaf yno yn y 13eg ganrif ar y graig a enwir Cruciaeth. Y nesaf, a’r mwyaf swyddogol, yw pan ysgrifennwyd yn y siarter i wneud y dref yn fwrdeistref a’i lofnodi gan Edward I yn Aberteifi ar 22 Tachwedd, 1284, ble gelwid y dref yn ‘Crykyth’.
Yn yr oesoedd canol roedd Cricieth yn cael ei adnabod fel Treferthyr (Martyr’s Town). Awgrymir, ond nid yw hyn wedi ei brofi yn bendant, fod hyn yn cyfeirio at St Catherine y mae Eglwys y plwyf wedi ei enwi ar ei hôl. Heddiw, mae’r ysgol gynradd yn cael ei adnabod fel Ysgol Treferthyr.
Cricieth, tref glan y môr brydferth â golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion ac Ardudwy. Mae cymaint ar gael i’w archwilio yn ystod eich arhosiad, o lecynau hanesyddol diddorol i’r Lôn Goed chwedlonol a ysbrydolodd rhan o gerdd enwog R Williams Parry, ‘Eifionydd’Â
Mae pentref bach Llanystumdwy yn gyfarwydd fel llecyn diwylliannol sydd wedi bod yn gartref i lu o enwogion creadigol dros y blynyddoedd megis yr artist Elis Gwyn Jones a Jonah Jones y cerflunydd, y dramodydd Wil Sam, y cyn Archdderwydd, WRP George a’r diweddar awdur Jan Morris.
Mae’n ardal fywiog yn ddiwylliannol, gyda digwyddiadau yn y Neuadd Bentref, neu Amgueddfa Lloyd George bob wythnos. Tafarn y Plu, ein tafarn gymunedol, yw calon y pentref ac mae croeso cynnes i’w gael yno bob amser.  Tafarn y Plu