
Cymunedoli
"Cymuned o gymunedau” a “Cryfder ar y cyd” yw rhai o arwyddeiriau Cymunedoli Cyf - rhwydwaith o 26 o fentrau cymunedol a ffurfiwyd yn dilyn cyfres o sgyrsiau anffurfiol yn ystod haf 2022 gyda’r amcan i gefnogi ymdrechion ei gilydd, cryfhau’r achos dros gymunedoli ar draws Gwynedd, a chodi capasiti lleol.
Yn ôl Sel Williams, un o sylfaenwyr Cymunedoli Cyf, mae potensial y rhwydwaith yn aruthrol:
“Be mae model Cymunedoli Cyf yn ei gynnig yw model arloesol a theg o weithredu ble mae cymunedau yn arwain ac yn rheoli’r gweithredu. Mae gwerth cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein gwaith yn amrhisiadwy o safbwynt cynnal cymunedau iach a chydnerth. Ein gobaith ni gyda Cymunedoli Cyf yw ein bod ni’n rhoi cynhaliaeth a chefnogaeth i’n gilydd ond ein bod ni hefyd yn ysbrydoli eraill o beth sydd yn bosib trwy weithredu lleol a thrwy gydweithio gyda’n gilydd.”
Safle Cymunedoli
Rhestr o fentrau cymunedol
- Antur Aelhaearn, Llanaelhaearn.
- Antur Nantlle, Penygroes.
- Antur 'stiniog, Tŷ Coffi Ffestiniog.
- Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy.
- Cwmni Bro Ffestiniog
- Cwmni Nod Glas, Dinas Mawddwy.
- DEG (Datblygiadau Egni Gwledig)
- Nant Gwrtheyrn, Llithfaen.
- O Ddrws i Ddrws, Nefyn.
- Plas Carmel, Aberdaron.
- Tafarn y Fic, Llithfaen.
- Tafarn y Plu, Llanystumdwy.
- Ty’n Llan - Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd.
- Y Tŵr, Pwllheli.
- Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.
- Yr Eagles - Llanuwchllyn, Bala.
- Yr Heliwr, Nefyn.
Mae Cymunedoli yn ceisio grymuso a datblygu ein cymunedau, gan gynnig gwybodaeth ac arweiniad yn ogystal ag anelu i gryfhau’r apêl o gymunedoli i eraill. Y nod yw cynnig cefnogaeth ac anogaeth, gwybodaeth a gobaith i gymunedau a mentrau cymunedol.

Cynnig Cymraeg
yw cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd y Gymraeg i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.