Dyma rai o’r Siopau gorau lle rydych yn sicr o gael Croeso Cymraeg cynnes.

       Gweld ar Fap

Siopau –  Llyfrau, Bwyd, Dillad…

Cwt Tatws

Mae Cwt Tatws wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr yma yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn. Mae llwybr yr arfordir ychydig latheni o’r drws ac mi gymerith hi ddau funud ichi gerdded lawr at y traeth hir melyn. Ein nôd ydi cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a rhoi croeso cynnes Cymreig ichi gyd. Yn ogystal a’r siop sydd a chasgliad helaeth o bethau cwbl hyfryd i chi a’ch cartref, mae Caffi Tatws yn le da am baned a sgwrs. Lleoliad – Tudweiliog. Mwy…

Llên Llŷn

Llyfrau a Recordiau, Pwllheli. Lleoliad – Pwllheli. Mwy…

Awen Meirion

Llyfrau, cardiau, CDs, crefftau Cymreig, crysau Cowbois, nwyddau Cyw a llawer iawn mwy.

Lleoliad – Bala. Mwy…

Siop yr Hen Bost

Siop lyfrau ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n gwerthu llyfrau newydd ac ail law.
. Lleoliad – Blaenau Mwy…

Oriel Pwlldefaid

Agorodd Bethan a finna (Eirian) y siop ym Mis Tachwedd 1998 fel siop i werthu y cynnyrch ‘oeddan ni yn ei wneud a hefyd gwaith crefftwyr lleol eraill. Crochenwaith oedd gan Bethan i ddechra’ a finna’n gneud dillad plant ‘Indicymru’. Erbyn hyn, mae Bethan yn gneud ambell beth yn cynwys gemwaith clai, cardia’, ac eitemau bach i’w personoli. Erbyn hyn ‘da ni’n gwerthu cynnyrch dros 30 o grefftwyr.

Lleoliad – Pwllheli. Mwy…

Palas Print

Siop lyfrau annibynnol o fewn tref gaerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a’r byd. Lleoliad – Caernarfon Mwy…

O.G. Owen a’i fab

Mae William Glyn Owen yn gigydd adnabyddus yng Nghaernarfon. Lleoliad – Caernarfon. Mwy…

Bonta Deli

Lleolir Bonta Deli o fewn muriau castell Caernarfon. Rydym yn angerddol am fwydydd lleol o safon uchel.

Ein nod yw rhoi gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a phersonol i’n holl gwsmeriaid.

Mae ein hamrywiaeth o fwydydd yn amrywio trwy’r tymhorau o’n ciabatta’s ffres amser cinio, i’n cacennau cartref a’n teisennau Eidalaidd. Yn stocio dros 30 o gawsiau mae cownter caws ac amrywiaeth eang o nwyddau lleol Cymreig ac Eidalaidd rydym yn eu darparu ar gyfer unrhyw amser bwyd a chwpwrdd storio.

.

Lleoliad – Caernarfon Mwy…

Spirit of `58

Ysbryd '58 Wedi'i sefydlu yn 2010 Ar gyfer cefnogwyr pêl-droed Cymru gan gefnogwyr Pêl-droed Cymru Ffwtbol & Pel Droed.!

Lleoliad – Bala. Mwy…

Becws Gwalia

Busnes teuluol ifanc , yn adnewyddu'r hen Gwalia i ddod â bywyd yn ôl i stryd fawr Pwllheli. Wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Oriel Tonnau gyda siop dros dro o ddydd Llun i ddydd Gwener. Lleoliad – Pwllheli.  Mwy...

Tyddyn Sachau

Lleolir Tyddyn Sachau ar gyrion pentref Y Ffôr rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Y datblygiad diweddaraf yw’r caffi a agorwyd yn swyddogol ar y degfed o Orffennaf 2010 gan Russell Jones, cyn-gyflwynydd ar raglen S4C : Byw yn yr Ardd. Adeiladwyd y caffi i’r safon uchaf. Mae’n olau, ysgafn ac yn gallu eistedd hyd at nawdeg o bobl y tu fewn. Addurnir y muriau gyda ffotograffau trawiadol sydd hefyd ar werth. Mae cynllun siâp L yr adeilad yn fwriadol er mwyn creu adran i deuluoedd ymlacio. Lleoliad – Pwllheli. Mwy…

Map Siopau

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"

Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru