Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.

Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.

LLANDWROG

Mae’r pentref wedi ei godi o gwmpas yr eglwys fawr a ddyluniwyd gan Kennedy yn 1860, ac mae’n ymddangos mai yma yr oedd gweithwyr ystâd Glynllifon yn byw a’r gweision ar ôl iddynt ymddeol. Mae dylanwad pensaernïaeth ddieithr yn amlwg yn yr elusendai a’r dafarn, ac mae’r rhes tai uncorn yn nodweddiadol o bensaernïaeth Glynllifon; addasiad o ddyluniad tŷ bonedd o gyfnod y dadeni, yn deillio yn nhermau Cymru o dŷ Bachegraig, fel bwthyn addurnol, gyda nodweddion gwledig bwriadol ac wedi eu grwpio gyda’i gilydd mewn rhes. Mae datblygiadau tai diweddar wedi cynyddu maint y pentref tua’r gorllewin. Nid oes teimlad Cymreig yn perthyn i’r pentref, nid oes capel Anghydffurfwyr yma, er yn eironig mae wedi dod yn gadarnle i genedlaetholdeb Cymreig . 

Cyrchfannau eraill yn Arfon – Penygroes, Caernarfon

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"

Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru