Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.

Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.

PWLLHELI

Saif Pwllheli yn y fan lle mae’r afon Erch, a’r afon Rhyd-Hir yn cyfarfod, a’r yr arfordir Deheuol o’r penrhyn. Dyma’r brif dref farchnad yn yr ardal, ac mae’r Marina wedi gwneud Pwllheli yn ganolfan wych ar gyfer hwylio, a chwaraeon dwr eraill.

Mae ardal Lôn Cob Bach, Pwllheli (SH 373347) wedi ei ddynodi gan Gyngor Gwynedd oherwydd ei gwerth ecolegol lleol a’r defnydd hamdden a wneir ohoni. Mae’n gymharol unigryw fel Gwarchodfa Natur Leol am ei bod yn enghraifft o wlyptir a gwastadedd llifogydd o fewn tref. Bwriedir ei hymestyn yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Dynodwyd nifer o adeiladau yn Llŷn gyda’r bwriad o’u gwarchod a diogelu naws pentrefi’r ardal. Yn eu plith mae canol pentrefi Aberdaron a rhannau o Lanengan a Llangian sydd o fewn cyffiniau’r eglwys. Rhestrir nifer o adeiladau ym Mhwllheli megis y Wyrcws, Penlan Fawr, ‘Whitehall’, dorau’r harbwr, Hen Neuadd y Dref, y gofeb ar y Cob a’r addoldai..   mwy….

Cyrchfannau eraill yn Llŷn – Aberdaron, Nefyn

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"

Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru