Lleoliadau Adloniant / Gigs

Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn lle mae Croeso Cymraeg cynnes bob amser. mwy….

Tafarn Yr Heliwr

Mae’r Heliwr yn dafarn a llety gymunedol yn nhref Nefyn, wedi ei hamgylchynu gan brydferthwch Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru.

Mae’r Heliwr yn cynnal digwyddiadau at ddant pawb trwy gydol y flwyddyn megis gigiau cerddoriaeth byw, ffeiriau, digwyddiadau bwyd, nosweithiau diwylliannol a gweithdai celfyddydol!

Lleoliad – Nefyn. Mwy…


Calendr Gigs...

Tafarn Y Plu

Tafarn Y Plu

Bydd rhai o’n digwyddiadau angen tocyn i fynychu. Gallwch fynd i’r Plu i brynu tocyn neu prynu ar lein drwy gwmni Ticket Tailor

Lleoliad – Llanystuwmdwy. Mwy…

Digwyddiadau rheolaidd:

  • Cwis – Nos Fercher olaf pob mis – 8 o’r gloch
  • Sesiwn Sgwrsio I Ddysgwyr – 4ydd nos Fercher pob mis 7.30-8.30 pm
  • Tê P’nawn – Pob P’nawn lau o 3 o’r gloch ymlaen – cyfle i gael sgwrs dros baned a chacen
  • Cymorth Digidol – Pob P’nawn lau o 3 o’r gloch ymlaen
  • Sesiwn Jamio – Nos lau olaf pob mis – 7.30 o’r gloch

Tafarn Y Fic

Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl ardal Llithfaen gwmni cydweithredol a chodi cyfalaf i brynnu Tafarn y Fic. Ers hynny mae wedi tyfu`n dafarn gymdeithasol Gymreig yn darparu amrywiaeth o adloniant Cymraeg ac yn cynnig cyflogaeth leol.

Lleoliad – Llithfaen. Mwy…

Tafarn Y Fic

Galeri

Mae adeilad Galeri yn cynnwys:

  • Theatr a sinema 394 o seddi
  •  24 o unedau swyddfa
  •  Safle Celf
  • 2 stiwdio ymarfer fawr
  •  3 ystafell ymarfer llai o faint
  • Ystafelloedd cyfarfod
  •  Café Bar

Lleoliad – Caernarfon. Mwy…

Neuadd Dwyfor

Neuadd Dwyfor, canolfan gelfyddydol fywiog a deinamig gyda Sinema, Theatr a Llyfrgell. Yn 1996  adleolwyd Llyfrgell Pwllheli yn Neuadd Dwyfor. Erbyn 2013 gosodwyd y taflunydd digidol sydd yn weithredol heddiw.

Lleoliad – Pwllheli. Mwy…

Pontio

Wedi ei rannu dros chwe llawr, Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor, yn gartref i theatr hyblyg maint canolig wedi ei enwi ar ôl Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200.

Lleoliad – Bangor. Mwy…

Theatr Derek Williams

Mae Theatr Derek Williams yn cael ei rhedeg yn rhannol wirfoddol i ddod â ffilmiau, dramau, cerddoriaeth fyw, a gweithdai o bob math i ardal Y Bala a thu hwnt..

Lleoliad – Bala. Mwy…

Map Lleoliadau

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru