Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.
Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.
PENYGROES

Penygroes
Pentref o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sefydlwyd ar hyd y ffordd ganoloesol o Gaernarfon i Glynnog, ac ar hyd ffordd y 1820au a’i disodlodd yn rhannol. Calon y gymuned, a’r nodwedd a roes iddo ei enw, yw’r gyffordd rhwng y ffordd o’r cyfnod cyn yr 1820au a’r ffordd i Gloddfa’r Coed, a’r efail a sefydlwyd yno tua 1801. Ehangodd y pentref fel canolfan manwerthu, bancio a gweinyddol leol ac fe’i hehangwyd ymhellach ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif pan godwyd tai cymdeithasol a’r ystadau diwydiannol mewn ymateb i ddirywiad y diwydiant llechi a’r chwalfa gymdeithasol a’i dilynodd.
Mae’r adeiladau cynharaf ar y brif ffordd (1820au) drwy’r pentref – Stryd Fawr/Heol y Dŵr. Mae’r Hen Bost a Siop Griffith, sy’n cydoesi â’r ffordd, wedi eu hadeiladu’n bennaf â cherrig lleol. Mae’r rhes a elwir yn Treddafydd, a adeiladwyd yn 1837, yn un o’r rhesi diwydiannol hiraf a chynharaf yng Ngwynedd, ac mae’r toeau wedi eu gwneud o lechi brith bras o Gloddfa’r Lôn. Codwyd tai’n ddiweddarach ar y Ffordd Sirol yn dilyn llwybr Rheilffordd Nantlle, a fu’n rhedeg o 1828 tan 1872; mae’r tai hyn wedi cadw amrywiaeth o byrth addurnol a ffensys o haearn.
Cerrig bychain o’r caeau a ddefnyddid yn aml i godi’r tai diweddarach, fel y rhai ar Allt Doli, Ffordd Fictoria a Stryd yr Wyddfa, a thybir y defnyddid y rheini am nad oedd deunyddiau mwy sylweddol ar gael. Mae’n debyg mai ymgais oedd y stwco a ddefnyddiwyd ar y rhan fwyaf o’r adeiladau hyn i guddio ansawdd gwael y gwaith adeiladu. Siopau oedd llawer o’r adeiladau hyn (mae rhai ohonynt yn dal yn siopau hyd heddiw), ac mae llawer o ffryntiadau siopau cymharol addurnol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi.
Mae’r ardal yn cynnwys nifer o adeiladau sylweddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnwys yr hen ysgol sirol (1896), yr hen swyddfa bost, sef banc HSBC bellach a thafarn y Commercial. Mae’r toeau llechi patrymog ar hen swyddfeydd cwmni Chwarel Riley ar gyffordd Ffordd Fictoria a’r Ffordd Sirol yn werth eu nodi. Gwelir patrwm tebyg ar y gatws ar y ffordd i Dalysarn. Mae’r ystad ddiwydiannol ar gyrion deheuol yr ardal yn cynnwys nifer o siediau dur parod ac adeiladau llai ar gyfer swyddfeydd.

Llwybrau a Chylchdeithiau ardal Penygroes
Llwybr Caernarfon – Groeslon, Llwybr Groeslon i Clynnog Fawr
Cyrchfannau eraill yn Arfon – Caernarfon, Llandwrog, Penygroes

Mae Croeso Cymraeg yn hapus i gefnogi prosiect "Hapus i Siarad"
Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes bach lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!
Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.
