Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar braf, rhamantaidd. Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn lle rydych yn sicr o gael Croeso Cymraeg cynnes gan eich gwesteiwyr.
Maes gwersylla braf a hamddenol, sy’n edrych draw dros fae Aberdaron. P’un ai a ydych chi’n chwilio am wyliau i’r teulu cyfan, neu’n penderfynu codi pac am y penwythnos – mae croeso i bawb a’i babell neu garafán.
Lleoliad – Aberdaron. Mwy…
Glanrafon Fawr
Maes Carafanau distaw gyda un cae gyda meysydd llawr caled ar gyfer carafanau gyda pwynt trydan a tap dwr. Mae lle yma i garafanau teithiol a Charafanau Tymhorol. Ar waelod y cae mae bloc toiledau gyda 2 ystafell molchi yn cynnwys cawod a toiled, ac 2 doiled ar wahan. Yno hefyd mae peiriant golchi a peiriant sychu dillad .
Mae’n cynnig lleoliad heddychlon a golygfaol ar gyfer carafanio a gwersylla, wedi’i wasgaru ar draws 4 prif gae gyda lleiniau eang a lawntiau agored. Mae’n addas i unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n chwilio am safle sydd nid yn unig yn heddychlon, ond sydd â digon i’w gynnig i’w westeion gan gynnwys ei drac preifat ei hun i draeth Rhosgor a Llwybr Arfordir Llŷn