Llety Arall
Dyma lety unigryw yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig croeso Cymraeg a Chymreig arbennig i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae Llety Arall yn fenter gymunedol sy’n cynnig llety o safon a gofod ar gyfer digwyddiadau o bob math. Rydym yn falch o fod yn hyrwyddo a chynnig profiad Cymraeg i’n gwesteion ac o fod yn chwarae ein rhan yn yr economi leol. Mae gofalu am ein hamgylchedd yn bwysig i ni, felly rydym bob amser yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael ar ein stepen drws ac i weithredu mewn ffordd gynaliadwy sy’n amgylcheddol gyfeillgar. Lleoliad – Caernarfon. Mwy…