
Sefydlwyd Croeso Cymraeg .Cymru gan bobl leol sy’n frwdfrydig dros Lŷn, yr iaith, y diwylliant a’r amgylchedd. Mae’n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Pen y Graig. Rydym yn awyddus i ddangos i bobl leol ac ymwelwyr rai o’r pethau yr ydym yn eu hystyried yn bwysig; ac i roi mewnwelediad dyfnach i bobl o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal.
Mae’r gwaith hwn yn cefnogi cynllun ‘Croeso Cymraeg’ Cyfeillion Llŷn i sefydlu twristiaeth wahanol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Mae’r diwydiant twristiaeth yn rhan allweddol o fywoliaeth llawer o bobl Llŷn ond mae wedi cael effaith niweidiol ar y Gymraeg ers canrif. Dechreuodd y diddordeb yn un o bentrefi bach hyfrytaf a thawelaf yn Llŷn tua chan mlynedd yn ôl ac mae’i ddylanwad negyddol i’w weld yn amlwg iawn yn Abersoch, erbyn heddiw.
Egwyddorion
Twristiaeth Gyfrifol
Rydym wedi ymrwymo i weithredu’n dryloyw ac i ddatblygu ein gweithgaredd ar dystiolaeth gadarn a chywir. Rydym yn gweithio’n gydweithredol efo pawb sy’n rhannu’r un weledigaeth o ddatblygu twristiaeth gyfrifol er budd y gymuned gyfan a’r holl drigolion lleol. Mae ein gweledigaeth o dwristiaeth gyfrifol yn cydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol wrth i ni hyrwyddo harddwch eithriadol a hanes yr ardal unigryw yma i ymwelwyr ac i bobl leol.
Cyfeirir yn aml at fanteision a buddion economaidd twristiaeth yng Ngwynedd. Ond tra mae twristiaeth wedi bod yn cynnal y bywyd Cymraeg y mae hefyd wedi bod yn ei ddifa ar yr un pryd. Mae tystiolaeth ymchwil yn cadarnhau fod twristiaeth ar ei ffurf bresennol yn cael effaith niweidiol ar y cymunedau Cymraeg a’r amgylchedd. Ar sail y dystiolaeth yma rydym yn cydweithio i sefydlu twristiaeth gyfrifol, gydnaws, gylchol, gynaliadwy a gwyrdd fydd yn grymuso’r cymunedau yn amgylcheddol, economaidd, gymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol.
Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiawth busnesau twristiaeth o werth diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sydd i hyrwyddo a datblygu twristiaeth gyfrifol fydd yn cynnal ac yn grymuso cymunedau ac yn gwarchod yr amgylchedd naturiol a diwylliannol. Dyma pam yr ydym wedi gosdo disgwyliadau pendant i fusnesau anelu atynt er mwyn bod yn un o’r busnesau Croeso Cymraeg fydd yn elwa o fod yn rhan gynnig arloesol newydd.
Rydym yn cydweithio gyda Cymunedoli a mentrau cymunedol yn ogystal a mentrau preifat. Er fod llawer o’r mentrau preifat yn hyrwyddo twristiaeth gyfrifol mae mentrau cymunedol yn ail fuddsoddi’r budd i gyd yn y gymuned yn unol a nod ac amcanion y fentaer.
Wrth ddod â mentrau cymunedol a busnesau at ei gilydd mewn gofod ar y we byddwn yn creu cynnig twristiaeth newydd fydd o fudd i bawb. Bydd hyrwyddo mewn ffordd wahanol yn meithrin math gwahanol o dwristiaeth mewn ffordd gyfrifol fydd yn gwarchod ein holl werthoedd.
Mae Croeso Cymraeg.Cymru yn cymeradwyo Datganiad Twristiaeth Cyfrifol Cape Town o 2002, a siarter twristiaeth Cyfrifol 2022, mae iddynt naw nod –
1. Yn cydnabod bod allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwastraff plastig, a difodiant bioamrywiaeth yn faterion byd-eang y mae angen gweithredu lleol arnynt.
2. Gosod nodau, mesur ac adrodd ar ymdrechion i leihau effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol negyddol, gan gynnwys gorlenwi a gor-dwristiaeth;
3. Yn creu mwy o fuddion economaidd i bobl leol a gwella llesiant cymunedau lletyol drwy ddarparu amodau cyflogaeth gwell, datblygu gwerth a rennir gyda busnesau lleol i greu gwell bywoliaeth a mynd i’r afael ag anghenion economaidd y rhai sy’n dlawd yn economaidd a’r rhai sydd ar y cyrion;
4. Cynnwys pobl leol mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau, eu bywydau a’u cyfleoedd bywyd
5. Yn cyfrannu’n gadarnhaol at warchod treftadaeth naturiol a diwylliannol, at gynnal amrywiaeth, diwylliannau byw a henebion diwylliannol y byd;
6. Yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a gwarchod natur;
7. Yn darparu cyflogaeth gynhwysol ar gyfer y gwahanol ableddau a phobl o ethnigrwydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol amrywiol;
8. Yn darparu profiadau mwy pleserus i bawb, trwy gysylltiadau mwy ystyrlon â phobl leol a gwell dealltwriaeth o hanes a diwylliant lleol, a materion cymdeithasol ac amgylcheddol;
9. Cynnig profiadau diwylliannol sensitif sy’n ennyn parch rhwng twristiaid a gwesteiwyr, ac yn adeiladu balchder a hyder lleol.
Hanes Croeso Cymraeg
Roedd yr angen i sefydlu twristiaeth gydnaws a’r diwylliant Cymraeg wedi ei adnabod yn 2001, mewn astudiaeth ymchwil i ‘Effeithiau Twristiaeth ar Yr Iaith Gymraeg Yng Ngogledd-Orllewin Cymru’. Cyflwynwyd y weledigaeth o sefydlu twristiaeth gylchol, gynaliadwy Gymraeg ei hiaith yn gyntaf mewn cais cynllunio i sefydlu Canolfan Dreftadaeth a Gwarchodfa Natur yn Llangwnnadl yn 2008.
Cafodd y weledigaeth ei throi yn gynllun Croeso Cymraeg gan Gyfeillion Llŷn yn dilyn cyfarfod arbennig yng Nghapel Penygraig yn 2011. Cafodd y cynllun ei dreialu ar raddfa fach yn llwyddiannus gan Gymdeithas Penygraig yn Llangwnnadl rhwng 2012 – 2013, efo nawdd bach gan brosiect Pecynnu’r Profiad PEG Gwynedd a daeth y gymuned i gyd ynghyd i hyrwyddo’r Gymraeg.
Tynnwyd pob arwydd Saesneg i lawr a gosodwyd rhai Cymraeg neu ddwyieithog yn eu lle, gosodwyd
arwyddion enwau lonydd Cymraeg am fod Lôn Cil Llidiart wedi dechrau cael ei galw yn Honey Pot Lane, cyflwynwyd hanes lleol ar hysbysfwrdd, mewn pamffledi a’r wefan ac ar hyd llwybr cylchol drwy gyswllt cod QR. Ers hyn mae mwy o lwybrau cylchol a hanes yn cael eu cyflwyno ar wefan Crwydro.co.uk. Yn 2022 cysylltodd trigolion o gymuned Llanengan efo Cymdeithas Penygraig efo bwriad o wneud cynllun tebyg wrth i Lôn Bwlch Llan droi’n Surfers Lane a derbyniodd cymuned Llanengan gyllid bach cronfa’r AHNE.
Fis cyn Eisteddfod Boduan yn 2023 cyflwynwyd y weledigaeth eto mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli, a gofynnwyd am gydweithrediad pawb i estyn yr un Croeso Cymraeg i’r ymwelwyr yn y dyfodol ac a gafodd yr Eisteddfod yn 2023. Yn y cyfarfod cafwyd cefnogaeth Myrddin ap Dafydd, Lis Saville Roberts, Anna a Bryn Fôn, Howard Huws, Martyn Croyden a Siaradwyr Newydd Dwyfor, a chyflwynwyd ffilmiau Celf Beca ‘Diolch a Croeso’ gan blant yr ysgolion a ‘Dim Saesneg’ gan Pill Wyman. cyfarfod – http://cyfeillionllyn.org/1/gwyliau-cymraeg/
Ym mis Hydref 2023 daeth prosiect Perthyn, Llywodraeth Cymru a chyfle newydd i rannu neges y weledigaeth o wyrdroi effeithiau negyddol y dwristiaeth Saesneg bresennol i fod yn effeithiau cadarnhaol twristiaeth Gymraeg . Gofynnodd y prosiect i ni ‘Helpu i gynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith gyda dwyseddau uchel o ail gartrefi’. Gwnaed gwaith ymchwil i ddarganfod gwir sefyllfa’r Gymraeg a darganfod ei bod mewn argyfwng a bod yna bryder dwys am ei pharhad yn y cymunedau tra roedd polisïau a gweithredoedd Cyngor Gwynedd yn arwain at ei difodiant ynghynt. Yn sgil y prosiect fe dyfodd y rhwydwaith o gysylltiadau a oedd yn rhannu’r un nod o warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg i gynnwys deuddeg o Gynghorau Cymuned a Thref Llŷn ac Eifionydd a benderfynodd ddynodi’r cymunedau yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch.
Mae gweledigaeth cynllun Croeso Cymraeg Cyfeillion Llŷn yn cael ei chyflwyno ar y wefan croesocymraeg.cymru yma, drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio datblygiadau technoleg i’w chyfieithu wedyn i ieithoedd y byd. Mae’r wefan yn cael ei datblygu fel treial i ddechrau drwy ymgyrch gydweithredol GwyrddNi, Cymunedoli, Cymdeithas Penygraig, Cyfeillion Llŷn, Argraff a’r mentrau fydd arni.
Drwy gydweithrediad a chefnogaeth y Cynghorau Cymuned a ddynododd yr holl ardal, sydd o fewn ffiniau’r Cynllun Adfywio Lleol Ardal Ni Pen Llŷn 2035 (Cyngor Gwynedd) mae’r cynllun Croeso Cymraeg wedi cael ei gynnwys ar restr flaenoriaeth y Cynllun Ardal Ni o dan ‘cynlluniau i gynnal a chryfhau’r Gymraeg’.