Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio’r dychymyg. Mae’n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion.

Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i’w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail pictiwrésg – wedi’i ddinistrio gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru’r Canol Oesoedd, Owain Glyndŵr.

Ond roedd wedi’i adeiladu gan ddau o’i ragflaenwyr, gwŷr mawr eu bri. Yn gyntaf, crëwyd y porthdy enfawr, gyda thyrau cerrig siâp D ar y naill ochr a’r llall iddo, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yna ychwanegodd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd – neu Llywelyn Ein Llyw Olaf – y ward allanol, y llenfuriau a dau dŵr newydd.

Serch hynny, doedd oedd y gaer greigiog hon ddim yn ddigon i wrthsefyll ymosodiad gan Edward I. Gwnaethpwyd ychydig welliannau gan frenin Lloegr ei hun pan osodwyd peiriant taflu cerrig ar y tŵr gogleddol er mwyn atal ymosodiadau o du’r Cymry.

Roedd y castell yn dal yn nwylo Lloegr yn 1404 pan losgwyd y tyrau’n rhuddion gan Owain Glyndŵr. Heb garsiwn i’w ddiogelu, daeth y dref yn un gyfan gwbl Gymreig unwaith eto.

Ysgrifennwyd y gerdd fwyaf adnabyddus am Cricieth yn y 14eg ganrif gan y bardd Cymraeg Iolo Goch. Mae’n dathlu’r ‘garreg rudd ar gwr grofft’  a llys soffistigedig Syr Hywel y Fwyall.

Cafodd Syr Hywel ei urddo’n farchog yn sgil ei ddewrder yn y Rhyfel Can Mlynedd, ac ef oedd un o’r Cymry cyntaf i gael ei benodi’n gwnstabl ar gastell yng ngogledd Cymru.

Ymddengys bod Iolo Goch wrth ei fodd bod Cricieth yn ôl yn nwylo Cymru o’r diwedd. Mae’n portreadu Syr Hywel a’i wraig yn ei gwregys aur yn estyn lletygarwch tra bod morynion hardd yn gwau sidan llachar yn y neuadd fawr.

Bu Syr Hywel yn gwnstabl y castell am dros 20 mlynedd hyd ei farwolaeth yn 1381 – cyfnod y cofir yn hir amdano fel oes aur Criccieth. Ond nodwyd ei ddirywiad hefyd mewn barddoniaeth.

Yn dilyn ymosodiad gan Owain Glyndŵr, mae’r bardd Owain Waed Da yn ysgrifennu bod y ‘creigiog fain caregog fur ‘wedi syrthio a’r castell bellach yn ddiwerth.

Ganrif yn ddiweddarach, yn ôl bardd lleol arall, mae Cricieth yn cael ei gorfodi i ymbil ar drigolion Harlech i ddarparu pâr o sanau. Mae’r castell mor adfeiliedig fel na all ei garchar – cadarn ar un adeg – bellach ddal ‘dynion creulon’.

Roedd ‘caer fawrdeg acw ar fordir’ – castell Cricieth, a fawrygwyd gan Iolo Goch wedi mynd am byth. Ond mae mwy na digon o’r mawredd yn parhau. Y castell hwn, a adeiladwyd gyntaf bron i 800 mlynedd yn ôl, yw un o’r adfeilion mwyaf ysblennydd yng Nghymru.

Cysylltu â Cadw

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Criccieth.Castle@llyw.cymruCyfeiriad

Castell Cricieth
Castle St, Cricieth LL52 0DP