
Storiel, Bangor
I gydfynd a’r arddangosfa Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn Storiel, Amgueddfa Gwynedd, Bangor ( Arddangosfa o 12/04/2025 – 21/06/2025) bydd detholiad o weithgareddau creadigol i oedolion er mwyn agor sgyrsiau heddwch yn cynnwys sesiwn grefftau papur, creu cerddi a sgwennu monolog. Mae tocynnau am ddim a croeso cynes i pawb.
Sesiwn yn meddwl am beth yw ein neges heddwch ni heddiw a chreu o grefftau papur, efo’r artist, Fiorella Wyn.