Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon yw aelodau’r grŵp pop Eden, a gafodd ei sefydlu yn 1996. Cafodd eu halbym cyntaf ‘Paid â Bod Ofn’ ei ryddhau ar label dylanwadol Sain yn 1997 ac ers hynny mae’r dair wedi sefydlu eu hunain fel un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd ar y sîn bop Gymraeg – yn serennu ar nifer o raglenni teledu, llwyfanau a gwyliau dros Gymru gyfan. Cafodd eu hail albym ‘Yn Ôl i Eden’ ei ryddhau yn 1999 ac ers hynny mae Eden wedi rhyddhau sawl sengl yn cynnwys ‘Cer Nawr’ yn 2003, ‘Rhywbeth yn y Sêr’ 2017 a ‘Sa Neb Fel Ti’ yn 2021.

Mae’r band bellach wedi rhyddhau ei albym ‘Heddiw’ ar Recordiau Côsh, mae’r albym yn torri tir newydd yn y sîn bop Gymraeg, gyda chaneuon fel ‘Caredig’ a ‘Siwgr’ yn plesio cynulleidfaoedd hen a newydd.

WEDI GWERTHU ALLAN