
Cyfarfod ym maes parcio Foel Gron, Mynytho am 1.00yp. Taith o tua 6 i 7 milltir ar ffordd, llwybrau ac efallai ar lan y môr. Bydd rhywfaint o lwybrau serth a thir anwastad. Byddwn yn cerdded o Fynytho at y Warren a Land and Sea, Abersoch ac ar lwybr cyhoeddus yn ôl i Fynytho. Dowch phaned efo chi a byddaf wedi paratoi cacan.