Mae GwyrddNi wedi lansio Paned i’r Blaned – gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate CafesPeople, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.