
Pontio – Bangor
80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Cyhoeddiad cast ehangach i ddilyn.
Canllaw Oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).