Mae hanes morwrol Llŷn yn gyforiog o adeiladu cychod a llongddrylliadau. Porthladdoedd a chilfachau bach lle bu môr-ladron a mewnforio, gyda chyfoeth o straeon a cherddi J.Glyn Davies am Fflat Huw Puw a Phwll Pen yr allt a.y.b.
Safleoedd Cyn Hanesyddol
Mae Llŷn yn frith o henebion, o fryngaer Tre Ceiri i gromlechi mewn lleoliadau yn edrych tua’r môr a maeni hirion godidog.