
Mae’r wyau Pioden Môr i weld ar gylchdaith Porth Colmon rŵan! Un o’r porthladdoedd mwyaf dymunol yn Llŷn, gyda ffordd gar yn arwain i lawr ato oddi wrth Gapel Penygraig. Mae Porth Colmon yn enghraifft nodedig o byrth arfordirol traddodiadol gogledd Llŷn. Cafnwyd glanfa yno i longau’n hwylio gyda’r glannau drwy chwythu’r creigiau ar y traeth llechog. Galwai stemars yno yn ddiweddarach gan gludo nwyddau a theithwyr yn ôl ac ymlaen i Gaernarfon a Lerpwl. Gallwch ganfod dolennau haearn ar gyfer rhwymo’r hen longau yng nghreigiau’r lanfa o hyd ac mae olion iard lö ac odyn yn y borth.

Ar fwrdd treftadaeth ger giât y llwybr, mae disgrifiad da o’r winsh arbennig a adeiladwyd yno ar gyfer dadlwytho llongau. Yn y pumdegau bu bron i ni golli’r Borth am byth. Ond diolch i frwydro ystyfnig y brodorion lleol, gorchfygwyd y Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag cael mynd i lawr i’r Borth Mwy…

Porth Tŷ Mawr – Enw arall ar Porth Tŷ Mawr yw Porth Wisgi. Yn 1901 drylliwyd llong y Stuart ar y creigiau yma. Roedd ar ei ffordd o Lerpwl i Seland Newydd gyda swyddogion ifanc a chriw o 19. Daeth y criw i’r lan yn ddiogel a chredid y gellid ailgodi’r llong ar lanw uchel. Ond daeth storm o’r môr gan dorri ei mastiau ac agor yr howld gan wasgaru ei chargo ar hyd y glannau. Ymysg y llwyth roedd llestri, pianos, canhwyllau – a stowt a wisgi. Mae baledwyr a haneswyr lleol yn sôn am firi mawr wrth i bobl yr ardal heidio i’r pyrth i gasglu’r nwyddau a rhai yn cythru’r poteli wisgi, eu hagor ar y creigiau a’u hyfed yn y fan a’r lle. Does fawr ddim i’w weld o weddillion y Stuart erbyn hyn, heblaw am ddarnau o’i haearn yma ac acw yn y caeau a malurion llestri yn y cerrig trai.

Ceir peth o hanes y “Stuart” yn “BIas Hir Hel” a hefyd fe’i crybwyllir yn “Pigau’r Sêr” gan John Griffith Williams. Cafodd J. G. Williams ei garcharu yn ystod yr ail ryfel byd am, yn ei eiriau ei hun yn ei gyfrol Maes Mihangel (1974), “wrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru.” Yn ôl darlith Robin Gwyndaf, ymwelodd Serah Trenholme, â’r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cafodd Elfed Gruffydd ei hanes yn fanwl gan ei ewythr, Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i’r cyfan ac yn gofnodwr manwl. Mwy…