Tre’r Ceiri – Yn ddi-os, Tre’r Ceiri , (a gyfieithir weithiau’n ‘dref y cewri’) yw un o’r esiamplau gorau o fryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd Ewrop ac mae hefyd yn un o’r rhai uchaf, yn   480metr. Mae waliau cerrig y muriau amgylchynol hyd at 3.5metr o uchder mewn mannau; ac mae gweddillion oddeutu 150 o dai crynion i’w gweld o fewn y gaer. Mae’r prif wahanfur yn ymestyn yn ddi-dor ar hyd cefnen estynedig y copa, gan amgáu dwy hecter o fewn rhagfur cerrig (3.5m o uchder a 2.3 i 3m o drwch). Mae wal ychwanegol ar yr ochr ogledd-orllewinol yn cryfhau amddiffyniadau’r rhan gaeëdig. Nid oes angen waliau ychwanegol ar yr ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol.

Mae’r mynedfeydd gwreiddiol i’w gweld o hyd. Mae’r brif fynedfa ar yr ochr ogledd-orllewinol yn dilyn llwybr lletraws drwy’r rhagfuriau allanol a mewnol, ac yn y fan hon mae’r wal yn fwy trwchus a cheir waliau gydag ochrau’r llwybr sy’n arwain at y fynedfa fel bod modd cael mynediad i’r fryngaer ar hyd tramwyfa 15metr. Mae nifer o gylchoedd cytiau yn y rhan fewnol. Mae rhai cytiau mwy, a chynharach wedi cael eu rhannu’n gydrannau drwy ychwanegu croesfuriau mewnol i greu ystafelloedd afreolaidd llai. Mae’n debygol iawn bod anheddu wedi dechrau yn Nhre’r Ceiri yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar a’i fod yn dal i gael ei anheddu yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig ac efallai, hyd yn oed yn ddiweddarach.

Mae dwy fryngaer arall o Oes yr Haearn ym Mhen Llŷn y gellir mynd atynt o gylchdeithiau, sef Garn Boduan ger Nefyn (Cylchdaith Garn Boduan) a Garn Fadryn (Cylchdaith Garn Fadryn), ac mae’r rhain yr un mor bwysig â Thre’r Ceiri yn eu ffyrdd eu hunain.

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru