Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gallwch fwynhau gwestai a gwyliau hunan-ddarpar braf, rhamantaidd. Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn ac yng Ngwynedd lle bydd Croeso Cymraeg cynnes i bawb. Gweld ar fap
Gwestai
Llety Arall
Dyma lety unigryw yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig croeso Cymraeg a Chymreig arbennig i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Mae Llety Arall yn fenter gymunedol sy’n cynnig llety o safon a gofod ar gyfer digwyddiadau o bob math. Rydym yn falch o fod yn hyrwyddo a chynnig profiad Cymraeg i’n gwesteion ac o fod yn chwarae ein rhan yn yr economi leol. Mae gofalu am ein hamgylchedd yn bwysig i ni, felly rydym bob amser yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael ar ein stepen drws ac i weithredu mewn ffordd gynaliadwy sy’n amgylcheddol gyfeillgar.
Lleoliad – Caernarfon. Mwy… Menter Gymunedol
Tŷ Newydd
Mae Iain a Wilma’n cynnig croeso cynnes i chi i Westy Tŷ Newydd. Mae’r gwesty wedi’i leoli ym mhentref prydferth a hanesyddol Aberdaron ar Ben Llŷn, Gogledd Orllewin Cymru. Mae Gwesty Tŷ Newydd yn edrych dros fae a thraeth tywodlyd Aberdaron, sef un o draethau gorau a mwyaf diogel Pen Llŷn.
Lleoliad – Aberdaron. Mwy…
Yr Heliwr
Agorodd Yr Heliwr fel gwesty am y tro cyntaf yng nghanol y 1800au.
Mae’r llety bellach wedi’i adnewyddu’n llwyr i safon fodern uchel, ac yn cael ei redeg fel menter gymdeithasol gymunedol.
Mae’r llety arddull byncws yn cynnwys tair ystafell gyda phedwar gwely bync yr un, ac ystafell maint teulu gyda dau wely bync a gwely dwbl.
Mae gan bob un ystafell ymolchi en-suite llawn offer gyda chawod.
Lleoliad – Nefyn. Mwy… Menter Gymunedol
Gwesty Seren
Mae ein gwyliau hygyrch yn rhoi'r seibiant y mae ei angen ar bobl gyda anableddau a’u gofalwyr.
Mae ein hystafelloedd wedi ei cynllunio ar gyfer anghenion ystod eang o anableddau, gyda staff arbenigol i'ch cefnogi.
Ym mis Chwefror 2009 caeodd y Pengwern ei drysau, ofn rhai am y tro olaf. Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ychydig cyn iddo gau penderfynwyd sefydlu menter gymdeithasol gymunedol er mwyn ailagor y gwesty: Pengwern Cymunedol Cyf.
Lleoliad – Llan Ffestiniog. Mwy… Menter Gymunedol
Yr Orsaf
Llety yng nghanol ardal hyfryd Dyffryn Nantlle
Agorodd y llety newydd ym mis Gorffennaf 2021. Ceir 3 ystafell sydd wedi eu hadnewyddu a’u dylunio’n chwaethus a chyfforddus ar gyfer ymweliad unigryw â’r ardal.
Lleoliad – Penygroes. Mwy… Menter Gymunedol
Taldraeth
Llety Cymreig 5 seren mewn Hen Ficerdy yn Eryri (ger Portmeirion) Taldraeth yw’r hen ficerdy ym Mhenrhyndeudraeth, ar ei dir ei hun, yng nghanol Eryri, gyda golygfeydd eang ar draws Aber Afon Dwyryd a mynyddoedd Ardudwy.
Dyma lety safonol sy’n cynnig gwir groeso Cymreig na welwyd ddim tebyg.
Dyma rai o’r llefydd gorau i aros yn Llŷn lle mae Croeso Cymraeg cynnes i bawb. mwy….
Ynys Enlli
Unwaith y byddwch wedi bod ar eich gwyliau cyntaf ar Enlli, mae’n debyg y byddwch eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.
Mae deg tŷ hunan-ddarpar yn cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth:
Dyma’r encil gwledig perffaith ar gyfer seibiant diflas yng Ngogledd Cymru. Mae’r hen felin hon wedi’i haddasu gyda’i bwthyn gwledig y tu allan a’r tu mewn modern yn swatio yng nghanol y Penrhyn. P’un a ydych chi’n chwilio am wythnos o archwilio neu gyrchfan penwythnos, mae’n gyrchfan berffaith i deulu neu ffrindiau sy’n chwilio am amser i ymlacio ac ymlacio mewn amgylchoedd chic a chyffyrddus.
Lleoliad – Aberdaron. Mwy…
Capel Bach - Y Plu
Mae’r capel hunanarlwyo hwn yn darparu llety unigryw i hyd at 6 o bobl, a mae o drws nesaf i Dafarn y Plu. Archebwch eich gwyliau ar-lein!