Neuadd Dwyfor, canolfan gelfyddydol fywiog a deinamig gyda Sinema, Theatr a Llyfrgell. Yn 1996 adleolwyd Llyfrgell Pwllheli yn Neuadd Dwyfor. Erbyn 2013 gosodwyd y taflunydd digidol sydd yn weithredol heddiw.
Wedi ei rannu dros chwe llawr, Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor, yn gartref i theatr hyblyg maint canolig wedi ei enwi ar ôl Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200.