Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.

Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.

ABERDARON

Aberdaron

Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda’i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a’i dai a phontydd llawn cymeriad. Mae’n werth galw ym Mecws Islyn, gyda’i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref, ond i fwynhau’r lluniau a’r mapiau a’r darnau o dreftadaeth sy’n addurno waliau’r caffi. Adeilad hynafol a diddorol yw’r Gegin Fawr, hen dafarn y pererinion. Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol. Er hynny, mae’n dal yn bentref bach. Mae’r ffyrdd yn dal yn gul a throellog ac mae’r ddwy bont gerrig, Pont Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr draw i’r pontydd mae’r ffordd yn lledu ychydig i ffurfio sgwâr marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon. mae yna nifer o achosion smyglo ar hyd arfordir Llŷn, dyma un enghraifft – 1808 – Daliwyd lygar yn Aberdaron am smyglo halen. mwy….

Cyrchfannau eraill yn Llŷn – Nefyn, Pwllheli

Dilynwch ni

Creuwyd gan Argraff.com i CroesoCymraeg.Cymru