Encilion perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gellir mwynhau golygfeydd godidog, y traethau gorau, llethrau a chopaon y mynyddoedd, y bwyd a’r adloniant, a’r cyfan wrth ymdrochi mewn môr o Gymreictod.
Dyma lefydd i aros ac ymweld â nhw lle bydd croeso cynnes Cymraeg i bawb.
NEFYN
Mae hen dref Nefyn wedi bod yn dref o statws ers Oes y Tywysogion Cymreig. Llys y Tywysogion Cymreig yn Nefyn oedd canolfan weinyddol cwmwd Dinllaen. Ni wyddom am leoliad y llys ond mae yno Stryd y Plas a gwyddom ei fod yn adeilad deulawr. Yma arhosodd Edward y Cyntaf a’i osgordd pan ymwelodd â Llŷn yn 1284 a bu’n rhaid cynyddu maint y poptai ar ei gyfer ef a’i osgordd. Er i Nefyn dderbyn siarter frenhinol gan goron Lloegr yn 1355, yn wahanol i Gonwy a Chaernarfon, ni fu ymgais yma i danseilio’r boblogaeth Gymreig a chreu coloni o fewnfudwyr breintiedig. Bu’n dref farchnad ac yn borthladd prysur am ganrifoedd.
Datblygodd y diwydiant pysgota yn Nefyn yn ystod yr 17eg ganrif ac erbyn 1748 roedd glanfa yma i ddod â’r pysgod i’r lan i’w trin. Penwaig oedd y brif helfa a byddent yn cael eu halltu, eu cochi, neu eu gwerthu’n ffres o’r môr. Daethant yn enwog ledled y wlad a’r enw arnynt oedd “bîff Nefyn”. mwy….